![]() Protestwyr argyfwng dŵr yn y Fflint, Michigan, argyfwng sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl o gymunedau lliw ac incwm isel. | |
Enghraifft o: | cysyniad ![]() |
---|---|
Math | hiliaeth, institutional racism ![]() |
Achos | Tlodi ![]() |
Cysyniad o fewn y mudiad cyfiawnder amgylcheddol yw hiliaeth amgylcheddol a ddatblygwyd yn Unol Daleithiau America on y 1970 a'r 1980au. Bathwyd "Hiliaeth Amgylcheddol" ym 1982 gan Benjamin Chavis, cyn gyfarwyddwr gweithredol Comisiwn Cyfiawnder Hiliol Eglwys Unedig Crist (UCC). Defnyddir y term i ddisgrifio anghyfiawnder amgylcheddol sy'n digwydd mewn cyd-destun hiliol mewn ymarfer a pholisi. Yn yr Unol Daleithiau, mae hiliaeth amgylcheddol yn ddull o feirniadu anghydraddoldebau rhwng ardaloedd trefol a maestrefol o ran lliw croen. Yn rhyngwladol, gall hiliaeth amgylcheddol gyfeirio at effeithiau'r fasnach wastraff fyd-eang, fel effaith negyddol allforio gwastraff electronig neu wastraff plastig i wlad dlawd.